Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at midday
Statement: Friday 18 December 2020 Dr Robin Howe, Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response
at Public Health Wales, said: “We are now one week away from Christmas,
and we would strongly encourage people to think very carefully about the
actions that they are taking at the moment, as they will directly impact on
what happens during the festive period. “The Welsh Government has confirmed that only
two households should come together to form an exclusive Christmas bubble
during that period. “We would ask the
public to very carefully consider if this is appropriate for them and their
households. Particular caution should be applied if there are elderly or
vulnerable members of their households who are at greatest risk. “For those who do plan on forming a Christmas bubble, it is essential that
this is planned and agreed with all the households involved. If doing so, we
advise the public to now stop mixing with other households. “This means staying
out of other people’s homes, limiting the times and the numbers of people that
you meet, maintaining social distancing and hand hygiene, working from home if
you can, and self-isolating if you show symptoms of coronavirus or are asked to
do so by contact tracers. “We understand that
people will want to do their Christmas shopping at this time of year. We would
suggest to try to visit shops during off-peak times, to always maintain social
distancing and to wear a face covering if you can. “The number of Coronavirus cases continues
to increase, with the seven-day rolling average passing 500 cases per 100,000
in Wales. “Rates of infection have increased in 20 of
the 22 local authorities over the last seven days, with the seven-day rolling
average now exceeding 1,000 cases per 100,000 in one area. “It is important that everyone continues to
follow the advice on keeping Wales safe.
Keep contacts with other people to a minimum, keep a two metre distance
from others, wash hands regularly, wear a face covering where required, and
self-isolating when asked to do so. “Public Health Wales
urges everyone to follow the rules, to avoid transmission of Coronavirus and to
protect everyone in our communities, including the most vulnerable. “If you or a member of your household develop
symptoms of the Coronavirus, such as a cough, fever or change in sense of taste
or smell, you must self-isolate immediately and book a free Coronavirus testeither by calling 119 or by clicking here. “Helpful advice and
support is available via the NHS COVID-19 app. As well as providing
alerts if you have been in contact with someone with Coronavirus, the app will
also tell you the current risk level in your area.
“Information about the
symptoms of Coronavirus is available on the Public Health Wales website, or via
the NHS 111 Wales symptom checker. Datganiad: Dydd Gwener 18 Rhagfyr 2020 Dywedodd
Dr Robin Howe, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr
ymateb i'r achos o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Bellach, mae’r Nadolig wythnos i ffwrdd, a byddem yn annog pobl yn gryf
i feddwl yn ofalus iawn am y camau maen nhw'n eu cymryd ar hyn o bryd, gan y byddan
nhw'n effeithio'n uniongyrchol ar yr hyn sy'n digwydd yn ystod cyfnod yr ŵyl. “Mae Llywodraeth
Cymru wedi cadarnhau mai dim ond dwy aelwyd ddylai ddod ynghyd i ffurfio swigen
Nadolig ar gyfer y cyfnod hwnnw. “Gofynnwn i’r cyhoedd ystyried yn ofalus a yw hyn yn briodol iddyn nhw
a’u haelwydydd. Dylid bod yn arbennig o ofalus os oes unrhyw aelodau hŷn neu
agored i niwed yn yr aelwydydd hyn, gan eu bod yn wynebu’r risg uchaf o’r
haint. “I’r rhai sy’n bwriadu ffurfio
swigen dros y Nadolig, mae’n hanfodol y caiff hyn ei gynllunio ymlaen llaw a
bod yr aelwydydd perthnasol yn cytuno ar hyn. Os felly, rydym yn argymell i’r
cyhoedd roi’r gorau i gymysgu ag aelwydydd eraill nawr. “Mae hyn yn golygu aros allan o gartrefi pobl eraill, cyfyngu ar faint o
weithiau a nifer y bobl rydych chi'n cwrdd â nhw, cynnal pellter cymdeithasol a
hylendid dwylo, gweithio gartref os gallwch chi, a hunanynysu os oes gennych
chi symptomau coronafeirws, neu os gofynnir i chi wneud hynny gan swyddogion
olrhain cysylltiadau. “Rydym yn deall y bydd pobl eisiau gwneud eu siopa Nadolig yr adeg hon
o’r flwyddyn. Byddem yn awgrymu ceisio ymweld â siopau yn ystod amseroedd y tu
allan i'r oriau brig, cadw pellter cymdeithasol bob amser a gwisgo gorchudd
wyneb, os gallwch chi. “Mae nifer yr achosion o Coronafeirws yn parhau i gynyddu, ac mae’r
cyfartaledd treigl saith niwrnod yn fwy na 500 achos i bob 100,000 yng Nghymru.
“Mae cyfraddau’r haint wedi cynyddu mewn 20 o’r 22 awdurdod lleol dros y
saith diwrnod diwethaf, ac mae’r cyfartaledd treigl saith diwrnod bellach yn
fwy na 1,000 achos i bob 100,000 mewn un ardal. “Mae’n bwysig bod pawb yn parhau i ddilyn y cyngor ar ddiogelu
Cymru. Dylech leihau eich cysylltiad â
phobl eraill gymaint â phosibl, cadw pellter o ddau fetr oddi wrth bobl eraill,
golchi eich dwylo’n rheolaidd, gwisgo gorchudd wyneb pan fo angen, a hunanynysu
pan ofynnir i chi wneud hynny. “Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pawb i ddilyn y rheolau, i osgoi
trosglwyddo Coronafeirws ac i ddiogelu pawb yn ein cymunedau, gan gynnwys y
rhai mwyaf agored i niwed. “Os byddwch chi neu aelod o'ch aelwyd yn datblygu symptomau
Coronafeirws, fel peswch, twymyn neu newid i synnwyr blasu neu arogli, rhaid i
chi hunanynysu ar unwaith ac archebu prawf Coronafeirws am ddim naill ai drwy
ffonio 119 neu drwy
glicio yma. “Mae cyngor a chymorth defnyddiol ar gael trwy ap COVID-19 y GIG.
Yn ogystal â darparu rhybuddion os ydych wedi bod mewn cysylltiad â rhywun â
Coronafeirws, bydd yr ap hefyd yn dweud
wrthych beth yw lefel gyfredol y risg yn eich ardal.
“Mae gwybodaeth am symptomau Coronafeirws ar gael ar wefan Iechyd
Cyhoeddus Cymru, neu drwy wiriwr symptomau GIG 111 Cymru.